Mae cyfraddau cwblhau tai wedi amrywio dros oes y prosiect ers 2008, ond drwy waith uniongyrchol y bartneriaeth a thrwy gynhyrchu ac annog a chefnogi ymdrechion hunanadeiladu ar ran eraill, mae dros 200 o dai wedi cael eu hadeiladu gan aelodau Menter Gydweithredol Abesu a chymdogion, sydd bellach yn darparu cartrefi diogel ac iach i ymhell dros 1,800 o fenywod a phlant.
Mae’r Prosiect wedi adeiladu Clinig Iechyd (gyda ward i fenywod), tai i nyrsys, Canolfan Dysgu TG, siop a swyddfeydd yn ei leoliad yn Shiyala.
Mae mentrau masnachol sy’n cael eu rhedeg gan y Bartneriaeth, sy’n cynnwys busnes trafnidiaeth, siop nwyddau metel a bwydydd mwy, a Lodge arfaethedig (Gwesty), bellach wedi'u hanelu tuag at gyflawni hunangynaliadwyedd ariannol i’r Prosiect erbyn mis Mawrth 2020.