Sefydlu gwerthoedd a hunaniaeth Affricanaidd Deheuol a Gorllewinol yng Nghasnewydd, a chydweithio â grwpiau cymunedol eraill yng Nghymru drwy drefnu gweithdai a chyfnewid syniadau i feithrin ymwybyddiaeth i helpu i adeiladu pontydd a gwella cysylltiadau.
Darparu gwasanaethau cymorth i gymunedau Affricanaidd Deheuol a Gorllewinol yng Nghasnewydd.
Hybu perthnasoedd cadarnhaol ymysg trigolion Casnewydd a grwpiau ethnig eraill. Hyrwyddo adnoddau addysgol i bobl ifanc difreintiedig, a thalu sylw arbennig i geiswyr lloches sy’n ceisio lloches yng Nghasnewydd, Cymru. Mae prosiectau presennol yn cynnwys Stargurlz a’r rhaglen AT-RISK-KIDS yn Liberia. Ar hyn o bryd, rydym yn cysylltu gydag ysgol Jack Cecup yn Lusaka, Zambia i gymryd rhan mewn prosiectau eraill.