Amcanion:
1 Paratoi adnoddau a darparu grantiau i bartneriaid yn Zimbabwe i weithredu prosiectau cymunedol sy'n anelu at ddatblygu cyfalaf dynol a dileu anghydraddoldebau strwythurol, a lleihau tlodi eithafol. 2. Datblygu’r gwaith o gartrefoli a gweithredu’r Nodau Datblygu Cynaliadwy er budd cymunedau gwledig sy'n agored i niwed, a chanolbwyntio’n benodol ar fenywod a phobl ifanc.
- Hwyluso integreiddiad byd-eang o ran mudiadau Menywod Zimbabwe, grwpiau, Sefydliadau Cymunedol a Sefydliadau Cymdeithas Sifil eraill sydd â diddordeb mewn cefnogi’r gwaith o wella statws menywod a grymuso pobl ifanc yng nghefn gwlad Zimbabwe.
- Hwyluso mabwysiadu a defnyddio technolegau newydd megis y Gweinydd RACHEL a Raspberry Pii, i bontio'r rhaniad digidol rhwng cymunedau gwledig a threfol, i hwyluso galluoedd gwell ymysg menywod a phobl ifanc yng nghefn gwlad i gyfrannu at gymunedau gwledig gwybodus.
- Hwyluso cysylltiadau neu efeillio rhwng sefydliadau yng Nghymru/y DU a'r rhai hynny yn Zimbabwe at ddibenion rhannu gwybodaeth a chyfnewid rhyngddiwylliannol.