Ein Cenhadeth:
darparu rhaglenni addysg a chymunedol atodol cynaliadwy a chadarn i wella bywydau 120 o ferched a phlant amddifad agored i niwed rhwng 5-12 oed, sy'n gaeth ac sydd wedi cael eu dinistrio gan dlodi a diffyg cyfleoedd addysgol yn eu bywydau ifanc. Rydym hefyd wedi ymrwymo i roi pryd o fwyd cytbwys iddynt ar ddiwedd y gwersi.
Ein Gweledigaeth:
hyfforddi a chyfarparu athrawon, darparu adnoddau ysgol priodol er mwyn gwella mynediad i addysg o ansawdd cynaliadwy ar gyfer y plant hyn sydd heb lais; cynyddu cofrestru mewn ysgolion i bawb, yn enwedig merched, a chynyddu a gwella amodau a chanlyniadau dysgu. Rydym hefyd yn annog ac yn addysgu ein cymunedau i hyrwyddo hawliau menywod ac addysg plant.
Amcanion:
Ein prif amcan ydy annog addysg fyd-eang drwy hwyluso rhyngweithio (nawr, cyfnewid llythyrau yn rheolaidd), rhwng ein hysgol yn Owerre-Olubor, Nigeria ac ysgolion yng Nghymru.
Meysydd Gwaith Prosiectau Presennol:
- Mae ein prosiect ysgol yn rhedeg ar sail barhaus a
- Mae Gift of Grace wedi ariannu eu hathrawon i sefydlu prosiect cymunedol sy’n gwneud ac yn gwerthu gemwaith a sebon lleol.