Mae ein hymrwymiad i weithredu'n unol ag egwyddorion Masnach Deg yn golygu bod y cynhyrchwyr yn cael pris teg am eu nwyddau, does dim caethwasiaeth plant, mae’r amgylchedd yn cael ei amddiffyn, a cheir gwell amodau gwaith.
Mae Masnach Deg yn agwedd bwysig ar ein gwaith, gan ein bod yn helpu unigolion a grwpiau i ddechrau eu busnesau eu hunain, yn gwneud celf a chrefft Affricanaidd, a chael pris teg amdanynt. Rydym yn gysylltiedig â’r mudiad Masnach Deg Love Zimbabwe - cwmni sy'n gwerthu nwyddau yn y DU.