Ffurfiwyd SEF-Cymru yn 2000, i fynd i'r afael â thangyflawni ymhlith myfyrwyr Caerdydd. Ers hynny, rydym wedi ymroi i dwf ac addysg plant ifanc, fel bod ganddynt well siawns o gael gradd foddhaol yn eu harholiadau.
Rydym yn falch o ddweud ein bod ni bellach yn darparu hyfforddiant i dros 100 o blant bob wythnos, mewn pynciau yn amrywio o Fathemateg i’r Gwyddorau, gan gynnwys pynciau safon uwch. Yn fwy diweddar, rydym wedi dechrau trefnu cyrsiau blasu i fenywod yn ein cymuned, i roi sgiliau estynedig iddynt, ac i ddatblygu eu hunan-barch a’u hyder. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu rhyngwladol, ac ar gysylltu ein cymunedau Alltud gyda’u mamwlad i ddysgu a datblygu ar y cyd. Meysydd Gwaith