Elusen yn y DU ydy Sight 2020 Direct, a sefydlwyd gan offthalmolegydd yn 2001, a sylweddolodd bod galw am wasanaethau gofal llygaid da, ar gyfer y difreintiedig, yn y byd sy'n datblygu.
Rydym yn gweithio ym Malawi hefyd, fel Corff Anllywodraethol o’r enw Onani Eye Foundation.
Ein harwyddair: carpe diem – cipiwch y dydd!
Ein Datganiad Cenhadaeth
Ein nod yw ymladd a thrin achosion y gellir eu hatal o ddallineb yn y byd sy'n datblygu. Mae hyn yn cynnwys cataractau, dallineb mewn plentyndod, gwallau plygiannol, golwg gwan a glawcoma. Ein Hethos
Mae ein hethos yn cael ei fynegi yn ein gwerthoedd cymunedol heb ffiniau. I wella cyfrifoldeb cymunedol fel y mynegwyd yn naliadau Datganiad Alma Ata (1978), sy'n datgan bod gan bob cymuned rhywfaint o gyfrifoldeb dros eu hiechyd. Rhaid i gynlluniau gofal iechyd fod yn ymarferol ac yn dderbyniol yn eu cymuned.