Ffurfiwyd y Panel Cynghori Is-Sahara yn 2009, pan gyfarfu nifer o grwpiau alltud Affricanaidd yng Nghymru i ystyried sut y gallent hyrwyddo’u diddordeb cyffredin mewn Datblygu Rhyngwladol gyda’i gilydd. Mae'r sefydliad yn ceisio defnyddio'r sgiliau, y gallu a’r wybodaeth yng nghymunedau alltud Affricanaidd Cymru er budd pawb. Mae hyn yn cynnwys rhoi cyngor ar sut i ddarparu ymyriadau datblygu rhyngwladol effeithiol drwy gyfrannu dealltwriaeth gadarn o ddiwylliannau a realiti economaidd cymdeithasol o fywyd bob dydd mewn gwledydd Is-Sahara. Mae’r Panel Cynghori Is-Sahara yn aelod o bartneriaeth Hub Cymru Africa.
Nod: Ystyried a mynd ar drywydd anghenion Grwpiau Alltud yn eu gwaith datblygu rhyngwladol, a hwyluso gwybodaeth a sgiliau Grwpiau Alltud yng Nghymru, i gael eu defnyddio i roi cyngor a chymorth i Sefydliadau Datblygu Rhyngwladol cynhenid yng Nghymru.
Mae Panel Cynghori Is-Sahara yn felin drafod annibynnol ar ddatblygu rhyngwladol. Ein cenhadaeth yw ysbrydoli a llywio polisi ac arfer, sy'n arwain at leihau tlodi a chyflawni bywoliaethau cynaliadwy yn Affrica (Is-Sahara). Rydym yn gwneud hyn drwy ddarparu cyngor ymarferol ar bolisïau, a lledaenu, dadl ac ymchwil cymhwysol sy’n canolbwyntio ar bolisïau. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat ar draws Cymru a'r DU yn gyffredinol.