Nod y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd yng Nghaerdydd ydy ysbrydoli, cefnogi a hyrwyddo entrepreneuriaeth Affricanaidd.
Y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd ydy’r unig sefydliad sy'n arbenigo mewn entrepreneuriaeth Affricanaidd, ac mae’n defnyddio ymchwil ar sail tystiolaeth i fodloni anghenion entrepreneuriaid Affricanaidd. Rydym yn deall anghenion y Gymuned Affricanaidd, a’r rhwystrau mae'r gymuned yn ei hwynebu wrth geisio sicrhau cyflogaeth yn y DU, ac rydym hefyd yn deall y rhwystrau mae'r gymuned hon yn ei hwynebu wrth geisio dod yn entrepreneuriaid.
Ein prif amcanion ydy: Codi ymwybyddiaeth yn y gymuned Affricanaidd o'r cyfleoedd a gyflwynir drwy entrepreneuriaeth.
- Annog mudwyr Affricanaidd i ystyried dechrau eu busnesau eu hunain
- Arwain ac ysbrydoli’r gymuned Affricanaidd ar sut i lwyddo drwy fenter