Nod Umoyo ydy gweithio gyda phobl o Malawi a De Affrica i gyflawni Nodau Datblygu'r Mileniwm, ac i droi’r breuddwyd 'Health for All' yn realiti. Rydym yn breuddwydio y bydd pobl Malawi yn cyrraedd lefel iechyd sy’n gymaradwy â’r gorau yn y byd erbyn canol yr unfed ganrif ar hugain, ac yn ymestyn y gamp honno i weddill De Affrica ar ôl hynny.
Bydd meithrin hunanddibyniaeth ar gyfer dylanwadu ar benderfynyddion iechyd er gwell drwy fenter gymdeithasol yn gonglfaen i waith Umoyo.