Influencing Policy for Better Change.

International Development & African Diaspora

Watch Africa

Mae Gŵyl Watch Africa yn Ŵyl Ffilmiau Affricanaidd Flynyddol yng Nghymru, sy’n dathlu'r gorau o sinema Affricanaidd. Lansiwyd Watch-Africa yn 2013, ac mae’r ŵyl yn darparu llwyfan ar gyfer ffilmiau Affricanaidd, celf a diwylliant yng Nghymru.

Y prif amcanion ydy cyfrannu a meithrin cyfnewidfa ddiwylliannol ac arfer â ffocws cymdeithasol rhwng artistiaid, grwpiau cymunedol ac aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru, Affrica a thu hwnt.

Mae ein hymagwedd yn addysgol ac yn amhleidiol, gydag ymrwymiad i blwraliaeth, a datblygu trafodaeth gyhoeddus drwy ymgysylltu. Ein bwriad ydy bod o fudd i gymunedau ac unigolion yng Nghymru ac Affrica yn artistig, yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn economaidd.

Rydym yn gwneud hyn drwy:

Sesiynau Holi ac Ateb gyda Chyfarwyddwyr a Chynhyrchwyr, Trafodaeth banel gyda gwesteion arbennig, celf a chrefft Affricanaidd, Cerddoriaeth a Bwyd Affricanaidd, gweithdai Adrodd Storïau, Cerddoriaeth a Dawns, Dosbarth meistr gyda Chyfarwyddwr Affricanaidd enwog.

Gweledigaeth:

Mae Gŵyl Ffilmiau Watch-Affrica, yn ymroddedig i ddarparu ffilmiau annibynnol o ansawdd, rhaglenni dogfen, ffilmiau tramor, ffilmiau byr ac animeiddiad a wnaed gan wneuthurwyr ffilmiau Affricanaidd ac o gymunedau alltud Affricanaidd, i gynulleidfaoedd o bob oedran a chwaethau sinematig, ac i addysgu myfyrwyr ffilm a fideo ar y grefft o wneud ffilmiau.

Cenhadaeth:

Cyfoethogi Prydain a'r gymuned yng Nghymru yn arbennig, trwy feithrin ymgysylltu gan y cyhoedd, gan ddefnyddio, a thrwy ffilmiau, celf a diwylliant Affricanaidd; gwahodd cynulleidfaoedd i ddysgu mwy am blwraliaeth persbectifau economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol Affrica.

CYFEIRIAD:
Temple of Peace,
Cathays Park,
Cardiff
CF10 3AP

MANYLION CYSWLLT:

029 2082 1057
enquiries@watch-africa.co.uk  @Watch_WAFF
www.watch-africa.co.uk