Grŵp o nyrsys, meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol yn y DU sy'n cefnogi cydweithwyr iechyd yn Zimbabwe.
Mae’r elusen, a sefydlwyd yn 2006 gan bobl o Zimbabwe oedd yn byw yn y DU, yn cynnig hyfforddiant a chymorth ar gyfer nyrsys, meddygon, ffisiotherapyddion, radiograffyddion, fferyllwyr a gweithwyr iechyd cymunedol eraill.
Mae ZHTS yn ymateb i ddatganiadau penodol o angen gan sefydliadau yn Zimbabwe y mae gennym gysylltiadau cryf â nhw, fel Prifysgolion Zimbabwe, Zimbabwe Association of Church Hospitals, ac ysbyty Ingutsheni.