Influencing Policy for Better Change.

International Development & African Diaspora

 
 Pont/Madaraja/Bridges:  Comisiwn galwad agored am artistiaid, pobl greadigol a gweithredwyr

Pont/Madaraja/Bridges: Comisiwn galwad agored am artistiaid, pobl greadigol a gweithredwyr

15 Jul 2021

 

“Mae gan iaith, unrhyw iaith, nodwedd ddeuol: mae’n ddull o gyfathrebu ac yn gludydd diwylliant”

  • Ngũgĩ wa Thiongʾo

Ynglŷn â’r prosiect

Mae Panel Cynghori Is-Sahara yn gwahodd artistiaid i’n helpu ni i archwilio cysylltiadau diwylliannol Affro-Gymreig ac archwilio’r ffordd y gall syniadau, creadigrwydd a dysgu lifo rhwng gwledydd Cymru ac Affrica heb hierarchaeth ffug.

Ein gweledigaeth yw datblygu cyfnewidfa gysylltiedig yn fyd-eang o gelf a diwylliant a lleisiau pobl greadigol Affricanaidd a Chymreig.

Mae gennym ddiddordeb yn adeiladu pontydd uniongyrchol rhwng pobl greadigol, diwylliannau ac ieithoedd.  Byddwn yn archwilio hierarchaethau iaith ac yn archwilio potensial offer gweledol, barddonol a chreadigol, dawns ac ystum i gyfleu naratif, emosiynau, atgofion a diwylliant.

Cyfle

Rydym yn chwilio am artistiaid, pobl greadigol, perfformwyr neu weithredwyr (unigol neu ar y cyd) sydd eisiau datblygu rhwydweithiau newydd, creu cysylltiadau, cydweithredu’n rhyngwladol a chreu llwyfannau newydd i gysylltu a rhannu.

Byddwn yn cydweithio i ddatblygu gweithgareddau a chelf ar-lein yn ogystal â rhai bywyd go iawn.  Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn mentora creadigol a strategol i’w galluogi i archwilio cydweithrediadau newydd, ffyrdd newydd o weithio a mynegiant ac i gydweithredu i greu gwaith newydd ac arbrofol.  Yn bwysig iawn, byddant hefyd yn dysgu oddi wrth ei gilydd.

Rydym yn chwilio am artistiaid sydd eisiau bod yn rhan o daith ac esblygu gyda’i gilydd, yn hytrach nag ar gyfer syniadau a gwaith cyflawn.

Gwahoddir artistiaid i weithio mewn cyfrwng o’u dewis nhw gan gofio y bydd y prosiect yn cael ei arddangos yng Nghymru a gwledydd Affricanaidd, yn mynd ar daith ac yn cael ei ledaenu ar-lein ac mewn bywyd go iawn.  Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn celf sydd yn gallu croesi ffiniau, sydd yn ddigidol neu’n gallu bodoli ar sawl fformat.

Cymhwysedd

Gall unrhyw un o unrhyw gefndir wneud cais.  Rydym yn annog ceisiadau gan artistiaid yn ystod unrhyw gyfnod o’u gyrfa.

Yn unol â nodau’r prosiect, rydym yn annog ceisiadau gan bobl o dras Affricanaidd (yn cynnwys cymunedau alltud, fel pobl Affro-Garibïaidd a phawb â chysylltiadau personol neu ddiwylliannol ag Affrica neu’n preswylio mewn Gwlad Affricanaidd).  Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan siaradwyr Cymraeg, ac artistiaid sydd yn ystyried eu hunain yn Gymry neu’n byw yng Nghymru.

Cyllideb

Ffi gomisiwn: £1500

Ffi untro yw hon

Gellir trafod cyllidebau bach ychwanegol sydd yn ofynnol ar gyfer cynhyrchu, deunyddiau, a sesiynau gyda’r bobl greadigol fel y bo angen yn ystod y prosiect.

Proses ddethol

Bydd rhestr fer o’r cynigion yn cael ei llunio gan Watch-Africa, Jukebox, Panel Cynghori Is-Sahara a’r awdur alltudiaeth blaenllaw Mola Eric Ngalle. Rydym yn gonsortiwm o bobl greadigol a sefydliadau Du wedi ein lleoli yng Nghymru a byddwn yn chwilio am gynigion sydd yn archwilio Cymru, Affrica a’i diwylliannau amrywiol a’i halltudion.  Rydym yn chwilio am geisiadau sydd yn cyd-fynd â briff y prosiect, syniadau a lleisiau gwreiddiol a’r potensial ar gyfer cydweithredu rhwng yr artistiaid dethol.  Bydd artistiaid ar y rhestr fer yn cael cyfweliad cyn bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud.

Llinell Amser Arfaethedig

Oherwydd natur Covid 19, gall llinellau amser newid ond ein gobaith yw y bydd y gwaith ar gael i’w arddangos gydag amserlen fynegol fel a ganlyn:

Awst 2021: cyfweliadau rhestr fer a dewis artist buddugol

Medi 2021: dechrau gweithdai a chyfarfodydd cohort artistiaid

Hydref 2022: cydweithrediadau creadigol

2023: arddangosiadau creadigol yng Nghymru ac Affrica

Sut i wneud cais

Anfonwch lythyr byr sydd yn amlinellu eich syniadau a’ch diddordebau, yn ogystal â chyflwyniad byr yn eich disgrifio chi a’ch gwaith creadigol i ophelia@ssap.org.uk

Mae croeso i chi gynnwys dolen i’ch portffolio neu ddelweddau ac enghreifftiau o’ch gwaith.

Os oes well gennych anfon fideo neu recordiad sain, caiff hwn ei dderbyn hefyd yn lle cais ysgrifenedig.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol nos GMT ar ddydd Sul 01/08/21

Gwybodaeth ychwanegol

Rydym eisiau i’r broses ymgeisio fod mor deg â phosibl ac rydym yn addo gwneud addasiadau rhesymol i’r broses hon er mwyn cyflawni hyn.  Cysylltwch os oes unrhyw addasiadau y gallem eu gwneud neu gymorth ychwanegol y gallem ei gynnig er mwyn eich helpu chi i wneud cais.  Byddwn yn meddwl am opsiynau amgen addas gyda’n gilydd.

Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng Watch Africa Cymru, SSAP a Jukebox collective wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru – asante/diolch am helpu i adeiladu pontydd.

More SSAP News...

Discover the Joy of Community and Music with Soel Connect Choir

SSAP new host of the Hub Cymru Africa partnership

Embark on a Journey of Wellness and Connection with Jamii 2 Project

Tackling gender roles one story at a time: Nigerian 22 year old Female Truck Driver

The Good Ancestors Club: Art and Climate Justice in Action 

SSAP Sudan Fundraising Event Blog

Reframing Picton

Write and Sip Workshop

Sketch, Paint and Sip

Making History For A Better Future

View all news »